Ysgol Goedwig Cymru

Yn cefnogi darpariaeth ac addysg Ysgol Goedwig ar draws Cymru

  • rss
  • Hafan
  • Am YGC
  • Aelodaeth
  • Ysgol Goedwig
  • Defnyddio Ysgol Goedwig
  • Cysylltu

Defnyddio Ysgol Goedwig

Mae Ysgol Goedwig yn cael ei gyflwyno gan Arweinwyr Ysgol Goedwig sydd wedi eu hyfforddio, ac mewn safleoedd yn y goedwig sydd wedi eu dewis yn ofalus.

Mae rhai Arweinwyr Ysgol Goedwig yn gweithio’n annibynnol, yn cynnal rhaglenni Ysgol Goedwig ar gyfer ysgolion, grwpiau yn y gymuned ac unigolion. Mae rhai o’r Arweinwyr Ysgol Goedwig yn aelodau o Gymdeithasau Ysgol Goedwig neu o gwmnїau di-elw. Mae rhai Ysgolion Coedwig ynghlwm wrth fannau arbennig megis parciau gwledig a choedwigoedd cymunedol.

Mae rhai grwpiau, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau yn y gymuned, yn darparu Ysgol Goedwig yn fewnol. Defnyddiant eu staff hyfforddedig eu hunain i hyfforddi eraill yn y fan a’r lle. Yn ogystal â rhannu arferion da, gall y grwpiau hyn sefydlu Cytundebau Gwasanaethu Mewn Swydd i rannu Arweinwyr rhwng y grwpiau.

Gallwch ddod ag Ysgol Goedwig at eich grŵp drwy brynu gwasanaeth Arweinwyr Ysgol Goedwig annibynnol a / neu drwy hyfforddi eich staff eich hun. Yn y naill achos neu’r llall, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu’n gyntaf ag Ymarferwyr Ysgol Goedwig eraill yn eich ardal chi.

Byddai dod yn aelod o Ysgol Goedwig Cymru yn eich helpu i ddefnyddio Ysgol Goedwig. Byddai Ysgol Goedwig Cymru yn darparu cyngor a gwybodaeth ar rwydweithiau rhanbarthol, ar safleoedd Ysgol Goedwig yn eich bro, ac ar sefydlu Ysgol Goedwig, ac yn hyrwyddo cysylltu gydag ymarferwyr eraill sy’n gweithio yn eich bro neu eich grŵp cleient.

Mae Ysgol Goedwig Cymru yn argymell y dylai Ysgol Goedwig, er mwyn gweithredu’n effeithiol, gadw at y canllawiau canlynol:

Canllawiau Arfer Da

Staff a Safle

  • Bod y staff a’r gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant
  • Nifer bach o blant i bob oedolyn
  • Coedwig leol, neu lecyn arall lle mae coed yn tyfu, er mwyn hybu cysylltiadau gyda chymuned y fro

Polisїau a Gweithdrefnau

  • Llawlyfr cyfoes sy’n trafod: iechyd a diogelwch, amddiffyn plant, polisїau’r amgylchedd ac asesiadau risg
  • Trefn adolygu a gwerthuso datblygiad y cyfranogwyr
  • Ymrwymo i dderbyn adolygiadau o’r tu allan ac i rannu arfer da gydag Ysgolion Coedwig eraill

Fframwaith

  • Yn digwydd dros gyfnod hir, yn ymweld â’r un safleoedd droeon a chan gadw at yr un arweinwyr
  • Wedi’u seilio ar gyflawni tasgau bychain
  • Yn digwydd o fewn fframwaith strwythuredig
  • Yn digwydd o fewn fframwaith lle rydym yn annog plant i chwarae fel y mynnant, gan wybod y byddant, trwy chwarae, yn dysgu, yn tyfu, yn herio ac weithiau’n syml yn rhydd i fod

Hyblygrwydd

  • Byddwch yn hyblyg ac yn barod i ddilyn trywydd wedi’i bennu gan ddefnyddwyr
  • Cefnogwch waith dysgu’r unigolyn

Gwerthoedd

  • Canolbwyntiwch ar adeiladu hunan-barch a hunan-hyder
  • Meithrinwch gyd-weithredu
  • Meithrinwch ymwybyddiaeth o’r amgylchedd
  • Byddwch ag agwedd gyfrifol a rhagweithiol tuag at cynaladwyedd coedwigoedd
  • Byddwch yn agored i bawb
  • Hybwch ddysgu
  • Byddwch yn ddifyr

Mae Ysgol Goedwig Cymru yn argymell y dylai’r holl fudiadau sy’n prynu rhaglenni Ysgol Goedwig sicrhau eu bod wedi gweld dogfennau cyfoes ar gyfer y canlynol:

Yr hyn y dylid galw ar Ddarparwr Ysgol Goedwig amdano…

  1. Tystysgrif OCN/BTEC Lefel 3 ar gyfer Arweinydd/Ymarferydd Ysgol Goedwig
  2. Adroddiad cyfoes ac ar lefel uwch gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
  3. Tystysgrif Cymorth Cyntaf dilys
  4. Tystysgrifau yswiriant dilys – Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer y staff a’r safle
  5. Llawlyfr staff a ddylai gynnwys y dogfennau cyfoes hyn:
    • Asesiadau risg ar y safle, y gweithgareddau a’r staff
    • Polisi Iechyd a Diogelwch a Threfniadau Argyfwng
    • Polisi a Threfniadau Amddiffyn Plant
    • Cynllun Rheoli Coedwigoedd
    • Trefn gwerthuso gwaith dysgu’r cyfranogwyr a’u datblygiad personol

Pan fod modd dewis rhwng gwahanol ddarparwyr lleol, efallai y bydd darpar-gleientiaid yn galw am gael gweld:

  • cymwysterau proffesiynol ychwanegol ac hyfforddiant pellach
  • rhestr grwpiau cleient a phrosiectau cynt
  • cymeradwyaeth cyfranogwyr cynt a’u hadborth

Mewngofnodi

  • Wedi colli dy gyfrinair?

Chwilio'r wefan

 (Cymorth)

Archif

Forest School Wales logo Hawlfraint © Ysgol Goedwig Cymru 2009 Cwmni wedi ei Gyfyngu drwy Warant Rhif 4642634 Rhif Elusen Cofrestredig: 1103188

Cynllunio Pentir Design design by jide Ewch i ben y dudalen